Dyma fideo newydd at Darganfod Sir Ddinbych i cael chi allan yn yr awyr agored . . .
Mae Rhuddlan wedi’i lleoli 3 milltir i’r tir o’r Rhyl ym man croesi gwreiddiol afon Clwyd. Cafodd Rhuddlan siarter, Statud Rhuddlan, gan
Edward 1af.
Mae’r Castell a’r Eglwys yn edrych dros yr afon, mae yna hefyd nifer o safleoedd hanesyddol o amgylch y dref, ac mae’n lle da i ymweld ag ef. Gyda Stryd Fawr ffyniannus â detholiad da o siopau, tafarndai, bwytai, siopau cludfwyd, lletai a meysydd carafannau – mae’n lle delfrydol i aros tra byddwch yn ymweld â gweddill Dyffryn Clwyd a thu hwnt.
Mae Rhuddlan yn lle da i fyw ynddo, gyda mynediad hawdd i’r holl drefi mawr, yr A55, llwybrau bysiau ac mae gennym gymuned ffyniannus.
Mae’r cyfleusterau sydd yn y dref yn cynnwys Canolfan Gymunedol, ardaloedd chwarae ar ddwy ochr y ffordd fawr, canolfan iechyd, llyfrgell, ysgol gynradd a nifer o fannau addoli, yn Gymraeg neu yn Saesneg.
Mae gennym fynediad hawdd i lwybrau cyhoeddus, llwybrau beicio a gwarchodfa natur leol.
Mwynhewch eich ymweliad a dewch i’n gweld yn Rhuddlan, nid ymweld ar y we yn unig.